Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Rachel Heal |
Dyddiad geni | 1 Ebrill 1973 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd, Trac a Cyclo-cross |
Rôl | Reidiwr |
Tîm(au) Amatur | |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2004 2005 2006 2007 |
Farm Frites Team SATS Team Victory Brewing Team Webcor |
Golygwyd ddiwethaf ar 12 Gorffennaf, 2007 |
Seiclwraig broffesiynol Seisnig ydy Rachel Heal (ganwyd 1 Ebrill 1973 yn Bebington, Yr Wirral[1]). Enillodd safle ar dîm WCPP (World Class Performance Plan) Prydain yn 2001 a rhoddodd y gorau i'w gwaith a daeth yn seiclwraig llawn-amser. Trodd yn broffesiynol gan reidio i dîm 'Farm Frites-Hartol' o Wlad Belg ar ôl ennill gradd mewn Peirianneg Cemegol o Brifysgol Birmingham. Mae wedi cymryd rhan ym Mhencampwriaethau'r Byd Gemau'r Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd. Mae wedi ennill rasys ffordd rhyngwladol a medalau ym Mhencampwriaethau Prydain ar y Ffordd, Treial Amser, Trac a Cyclo-cross. Mae wedi cyflawni cymhwyster Hyfforddwr Seiclo Lefel 2 'British Cycling' ac mae hi'n astudio i ennill cymhwyster 'Hyfforddwr Personol' ar y funud.